Logo Bwyd Cymru
Bwyd da. Gwir flas.
Pleser pur
Cig Hwyad Hallt Cymreig ac Eirin Damson wedi'u piclo Ffagots gyda stwnsh pys a mint
Cebabau oen Cymreig

Canolbwynt Bwyd Cymru - Mehefin

Welsh Fruit

Mehefin yw dechrau'r haf ac mae'n fis toreithiog ar gyfer cynnyrch o'r tir a'r môr. Mae planhigion a'u ffrwythau'n tyfu'n dda yn y dyddiau cynnes, hir. Ceir blas di-ail ar fefus, cyrens duon, cyrens cochion a gwsberis sydd wedi aeddfedu yn yr haul. Mae diwrnod ar fferm PYO yn hwyl i'r teulu cyfan ac fe gewch fynd â'r cynnyrch adref gyda chi ar ddiwedd y dydd.

Beth am ymweld â: Hooton's Homegrown - cewch gasglu'ch ffrwythau'ch hunan neu eu prynu o siop y fferm. Ceir dewis da o ffrwythau a llysiau, cig a dofednod, cacennau a jam cartref. Mae'r busnes yn un o dyfwyr asbaragws mwyaf Cymru a byddant yn ei grynhoi tan 24 Mehefin.
Siop fferm a PYO Hooton's Homegrown, Brynsiencyn, Ynys Môn, LL61 6HQ
Ffôn / ffacs: 01248 430322 Ar agor bob dydd 10.00am - 5.30pm
www.hootonshomegrown.com

Os ydych yn byw yng Nghaerdydd, does dim angen teithio'n bell i grynhoi'ch ffrwythau'ch hunan - cewch ddewis da yn: Gelynis Fruit farm and Vineyard and PYO, Morganstown, Caerdydd CF15 8LB
Ffôn: 02920 844440
Ebost: gelynisfarm@btconnect.com

Mae tatws newydd ar eu gorau. Daw'r rhai cynharaf o Sir Benfro a Phenrhyn Gwyr. Y peth gorau yw eu berwi yn eu crwyn pan fyddant mor ffres ag y bo modd. Dylech eu mudferwi am 10 - 20 munud, yn dibynnu ar eu maint. Peidiwch â'u gor-goginio - mae hynny'n difetha'r blas. Mae sbrigyn o fint yn y dwr yn rhoi blas da iddynt. Gallwch eu bwyta gyda digon o fint ffres a menyn Cymreig organig.

Maent ar gael mewn siopau ffrwythau a llysiau ledled Cymru.

Cyfanwerthwyr: Gower Growers, Reynoldston, Gwyr; Ffôn: 01792 391396 Puffin Produce, Llwyn Helyg, Hwlffordd; Ffôn: 01437 766716

Wythnos Bysgod Sir Benfro

Mae heidiau o gychod pysgota bach yn cyrchu tuag arfordir Cymru dros yr haf i chwilio am bysgod da - yn enwedig draenogiad (bass). Dyma'r math o bysgodyn y bydd Gwyl Bwyd Môr Sir Benfro yn canolbwyntio arno eleni. Bydd yr wyl yn dechrau ar ddydd Sadwrn 28 Mehefin ac fe gynhelir llawer o weithgareddau bob dydd tan ddydd Sul 6 Gorffennaf.

Dyma rai o'r digwyddiadau arbennig:
Sadwrn 28 Mehefin - Diwrnod agored ym Marina Aberdaugleddau - cyfle i brofi pysgod, dangosiadau coginio a barbeciw bwyd môr
Sul 29 Mehefin - diwrnod pysgota agored yng nghronfa ddwr Llys-y-frân. Manylion 01437 532694
Llun 30 Mehefin - Pencampwriaeth Bysgota Holgan, Llawhaden. Manylion gan Ian Heaps 01437 541285
Mawrth 1 Gorffennaf - Cyfle i Wylio Adar y Môr - taith mewn cwch o gwmpas Ynys Sgomer gyda'r nos - cysylltwch â Steve/Anna Sutcliffe 01239 820912
Mercher 2 Gorffennaf - noson o ganeuon y môr a bwyd môr yn y Wolfe Inn, Casblaidd - cysylltwch â Gianni de Lorenzo 01437 741662
Iau 3 Gorffennaf - Taith gerdded ar Ynys Dewi - gwarchodfa'r RSPB - Cysylltwch â Simon Avery 01437 721721
Gwener 4 Gorffennaf - Tamaid i'w brofi yn Harbwr Saundersfoot 11am - 2.30pm Cysylltwch ag Andrew Evans 01834 821304
Sadwrn 5 Gorffennaf - Gweithdy i blant - 'Funky Fish' yn y De Valance Pavilion, Frog Street, Dinbych-y-pysgod 01834 842730
Sul 6 Gorffennaf - dewch i ddysgu pysgota plu - White House Mill Trout Fishery - cysylltwch â Pembrokeshire Rivers Trust 01834 861203

Os hoffech weld rhaglen lawn o'r gweithgareddau, ewch i www.pembrokeshire.gov.uk neu ffoniwch Len Mullins ar 01437 775387

Crancod a Chimychiaid Cymru

Crancod a Chimychiaid Cymru

Mae pysgota am grancod a chimychiaid wedi dod yn boblogaidd iawn ar hyd arfordir Cymru gyfan, gan mai'r unig gyfyngiadau cyfreithiol ar yr helfa yw maint y crancod a'r cimychiaid. Nid yw cwotâu pysgota yr Undeb Ewropeaidd yn berthnasol i bysgod cregyn. Mae'r cychod mwyaf yn gosod hyd at fil o botiau i ddal cimychiaid, crancod cochion, crancod heglog a chrancod llygatgoch, ac weithiau môr-gyllyll, llysywod pendwll, pencwn, ac ambell i gimwch Mair.

Er mai'r cimwch yw'r mwyaf gwerthfawr ohonynt, mae'r helfa o grancod cochion yn pwyso ugain gwaith gymaint â helfa'r cimychiaid. Caiff llawer o'r crancod a'r cimychiaid eu hallforio'n syth i Ffrainc a Sbaen mewn lorïau 'vivier' mawr sy'n cario'r pysgod cregyn yn fyw mewn tanciau o ddwr môr ag aer ynddo. Mewn rhai ardaloedd, mae pysgotwyr wedi dod at ei gilydd i ffurfio grwpiau neu fusnesau cydweithredol sy'n cyflenwi gwestai a bwytai lleol yn ogystal ag yn allforio ar raddfa fawr i'r cyfandir.

Ceir gwybodaeth am gyflenwadau gan:
Cwmni Pysgotwyr Llyn Cyf, Pwllheli Ffôn: 01758 720656
Fish on the Quay, Aberaeron Ffôn: 01545 570599

Crab

CRAB

Y cranc coch - cancer pagurus - sy'n cael ei fwyta amlaf ym Mhrydain, er y ceir yma lawer o grancod heglog - maia squinado - hefyd.

Ar hyd arfordir Cymru, ceir llawer o fusnesau bach sy'n coginio crancod ac yn tynnu'r cregyn er mwyn cael eu cig. Caiff y cig ei werthu yn ôl ei bwysau neu ei roi yn ôl yng nghragen y cefn a'i werthu i wneud salad cranc mewn bwytai a thafarndai.

Mae rhai siopau pysgod yn gwerthu crancod byw. Mae crancod wedi'u coginio a chrancod Cromer parod (o Norfolk) ar gael mewn archfarchnadoedd.

Gwryw a benyw: Mae gan y fenyw gynffon lydan a chragen gefn grom; mae cynffon y gwryw yn gulach, ei fodiau yn fwy a'i gragen gefn yn fwy gwastad. Ceir llawer o gig gwyn ym modiau mawr y gwryw a chig brown melys, blasus yng nghragen gefn grom y fenyw. Mae blas cryfach ar gig brown y gwryw.

I goginio crancod: defnyddiwch gyllell wystrys neu sgriwdreifer i wneud twll bach yn y gragen, yn y pant bach o dan y gynffon. Mae hyn yn lladd y cranc ar unwaith ac, os na wnewch, bydd y bodiau a rhai o'r coesau'n dod i ffwrdd wrth ei goginio. Rhowch y cranc mewn dwr halen sy'n mudferwi, ei godi 'nôl i fudferwi a'i goginio'n ofalus am bum munud yn unig.
(Mae llawer o ryseitiau'n dweud am goginio cranc am fwy o amser o lawer ond mae hyn yn amharu ar ansawdd a blas y cig.) Diffoddwch y gwres a'i adael i oeri tipyn, yna tynnwch y cranc o'r dwr a'i adael i oeri'n llwyr â chragen y cefn am i fyny. Gallwch ychwanegu winwns, moron a seleri, a pherlysiau fel coriander neu deim i'r dwr i roi rhagor o flas i'r cranc. Mae angen tua awr i goginio ac oeri'r cranc. Rhowch y cranc yn yr oergell ar unwaith pan fydd wedi oeri.

I drin cranc: tynnwch gragen y cefn oddi ar y corff yn ofalus. Tynnwch goden y stumog o gragen y cefn trwy wasgu'r geg i'w rhyddhau. Tynnwch yr holl 'fysedd', sy'n debyg i sbwng. Gwthiwch y cig tywyll i gyd o'r gragen - pan fydd ar ei orau bydd yr un siâp â'r gragen. Tynnwch y bodiau o'r cymal isaf fel bod y cig gwyn yn y corff i'w weld. Torrwch y bodiau'n dri chymal a thorri cymal isaf trwchus y coesau i ffwrdd. Defnyddiwch dorrwr cnau i gracio'r coesau, a chyllell grancod, cyllell fer neu ben fflat llwy de fach i dynnu'r cig. Tynnwch y cig i gyd o gymalau'r bodiau a'r corff. Defnyddiwch forthwyl bach i gracio'r bodiau uchaf.
Bydd yn cymryd 10 - 20 munud i baratoi un cranc. Rhowch gaead dros y cig a'i roi yn yr oergell ar unwaith. Sylwch: gan fod blas cryfach ar gig tywyll y gwryw na'r fenyw, profwch y cig cyn eu cymysgu. Torrwch y cig brown yn dameidiau bach a'i gymysgu â'r cig gwyn nes y bydd at eich dant. Adiwch ychydig o mayonnaise, finegr neu sudd lemon, pupur a halen. Rhowch y cig yng nghragen y cefn i'w weini, neu ei ddefnyddio gyda salad neu mewn brechdan.

CIMWCH homarus gammarus

CIMWCH homarus gammarus

Mae cimwch byw yn las tywyll neu hyd yn oed bron yn ddu ond mae'n troi'n oren llachar ar ôl ei goginio. Ffurf silindr sydd i argragen ei gefn ac mae nifer o segmentau i'w gynffon sydd â phen siâp ffan. Mae'r pâr coesau blaen yn fodiau mawr, un yn gryfach o lawer na'r llall, ac mae pinsiwrn symudol ar y ddau. Mae golwg gyntefig iawn ar y creadur hwn, sy'n un o rywogaethau mwyaf gwerthfawr y môr, ac a ystyrir yn amheuthun iawn. Gwryw a benyw: mae bodiau'r gwryw yn fwy a'i gynffon yn gulach, ac mae'r gwahaniaeth i'w weld yn gliriach mewn cimychiaid mawr. Mae'r pâr uchaf o goesau nofio sydd gan y gwryw o dan ei gynffon yn galed ond mae rhai y fenyw i gyd yn feddal. Mae cynffon y fenyw'n cario wyau wrth iddynt ddatblygu a deor.

I goginio cimwch:
Dylid coginio cimwch yn yr un ffordd â chranc (uchod) ond dylid ei ollwng yn fyw i ddwr sy'n mudferwi, gan sicrhau bod digon o ddwr i orchuddio corff y cimwch i gyd. Bydd yn marw ar unwaith ond yn symud am dipyn wrth i'r cyhyrau dynhau. Ar ôl iddo oeri, dylai cynffon y cimwch fod yn dynn wrth y corff a sbringio 'nôl yn gadarn.

Ceir sawl ffordd o weini cimwch. Gellir ei hollti ar hyd y cefn a'r gynffon i roi dau hanner cragen; gellir tynnu'r gynffon gyfan oddi ar yr argragen er mwyn paratoi rowndiau neu 'fedaliynau' o'r gynffon; gellir tynnu'r coesau oddi ar yr argragen, a thorri ochr isaf feddal y gynffon i ffwrdd â siswrn cegin i wneud 'barquette', a gellir rhoi'r ddau yn ôl at ei gilydd i'w weini ar siâp gwreiddiol y cimwch. Mae cogyddion medrus yn defnyddio rhannau o'r cimwch mewn cyflwyniadau llawn dychymyg.

Ceir cig gwyn blasus â chroen mân cochbinc yn y bodiau a'r gynffon. Mae ansawdd ardderchog i'r cig tywyll sydd y tu mewn i'r argragen. Fel rheol, os nad oes wyau gan y fenyw, mae'r ronell y tu mewn i'w chorff ac ystyrir hwn yn amheuthun iawn. Os caiff cimwch fenyw ei choginio'n ysgafn fel sydd orau, gelwir y ronell hwn yn 'gwrel du' ond mae'n troi'n goch llachar os bydd yn boeth. Mae'n cael ei gyfrif yn werthfawr iawn mewn llawer o brydau a wneir â chimwch fel 'fricasees' a sawsiau cimwch.

Mae salad cimwch yn edrych yn ardderchog wedi'i weini mewn hanner cragen ag ochr binc y cig am i fyny. Mae'n hyfryd wedi'i weini'n syml gyda darnau o lemon ffres a mayonnaise ysgafn. Gellir rhoi talpiau bach o fenyn drosto a'i grilio'n sydyn i ailgynhesu'r cig ond ni ddylid ei or-goginio. Os byddwch yn gweini saws gyda chimwch, dylai fod yn un ysgafn - 'beurre blanc' sydd orau.

Rysáit

Cranc wedi'i grilio a sieri

4 cranc (wedi'u trin fel uchod)
neu
250g cig gwyn cranc
125g cig brown cranc
50g menyn organig Cymreig
50 ml Sieri Manzanilla neu Fino
chwarter llond llwy de paprica

Fforchiwch y cig cranc yn ofalus iawn i'w gymysgu a'i roi yng nghregyn cefn y crancod neu mewn pedair dysgl gratin fach heb ei wasgu. Toddwch y menyn ac ychwanegu'r sieri a'r paprica a chodi llwyeidiau ohono dros y cig cranc. Yna, rhowch ef o dan gril cynnes am 1 - 2 funud i'w gynhesu'n sydyn nes bydd yn dechrau hisian. Gweinwch ar unwaith gyda thatws newydd Sir Benfro neu Benrhyn Gwyr.
Mae Sieri Manzanilla neu win rhosliw Cariad yn ddelfrydol gyda'r pryd hwn.

Caws y Mis

Preseli Pantmawr

Mae David a Cynthia Jennings wedi bod yn gwneud caws ers 15 mlynedd. Caiff y caws i gyd ei wneud â llaw o laeth pasteuraidd gan ddefnyddio ceuled llysieuol yn unig.

Preseli Pantmawr

Caws Preseli - cafodd ei lansio yn 2000 a'i ddewis yn gynnyrch bwyd newydd gorau Sir Benfro. Fe'i gwneir mewn olwynion fflat, maint cilo o brie. Caws meddal aeddfed o laeth buwch ydyw. Nid oes blas sialc ar y caws ac nid yw'n rhedegog. Ceir rhai mân dyllau awyru ynddo. Gellir bwyta'r grofen denau ond mae'n tywyllu gydag amser. Ceir iddo flas arbennig, braidd yn egr, ac mae'n mynd yn fwy cymhleth a thebyg i flas madarch gydag amser. Mae'n rhoi tipyn o amrywiaeth i fwrdd caws Cymreig gan nad oes llawer o gawsiau meddal yn cael eu gwneud yng Nghymru.

Yr un caws yw Caws Coch ond caiff ei olchi â medd am rai wythnosau i wneud y blas yn fwy cymhleth, aeddfed a melys.

Pant Mawr farm
Rosebush,
Clunderwen,
Sir Benfro,
SA66 7QN
Ffôn / Ffacs: 01437 532627

Ebost: pantmawr_jennings@hotmail.com